Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (279) |
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-8 ac 11-13. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 10. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd cwestiynau 1 - 3 a 5 -15. Ni ofynnwyd cwestiwn 4. Atebwyd cwestiwn 9 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ac atebwyd cwestiwn 15 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 15.01
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5799
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Alun Ffred Jones (Arfon)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu
cyhyd â bod fformiwla Barnett yn parhau y dylai datblygiadau
sydd o fudd i Loegr yn unig, fel HS2, arwain at gyllid canlyniadol
Barnett llawn i Gymru; a
2. Yn credu ymhellach, pan fo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn anghydfod ynghylch a ddylai gwariant arwain at gyllid canlyniadol Barnett i Gymru bod angen corff annibynnol i farnu ar hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
10 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y Cynnig.
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.40
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5812 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynigion y Ceidwadwyr Cymreig i roi hwb i'r cymorth a roddir i brynwyr tro cyntaf; a
2. Yn cydnabod
yr angen i helpu prynwyr tro cyntaf ar yr ysgol dai drwy weithio
gyda'r farchnad gyfan i ddatblygu amrywiaeth o fentrau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
7 |
29 |
46 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi'r anawsterau sy'n wynebu prynwyr tro cyntaf o dan yr amgylchiadau economaidd cyfredol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
10 |
46 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am fodel tai rhentu i brynu newydd ac arloesol i alluogi tenantiaid i adeiladu cyfran ym mherchnogaeth eu cartrefi drwy eu rhent.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
18 |
23 |
46 |
Gwrthodwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod rôl tai cymdeithasol o ran darparu
tai fforddiadwy cost isel, ac nad yw'n briodol i weithredu
polisïau prynu cartref a fyddai'n lleihau'r stoc tai
cymdeithasol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
10 |
0 |
46 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5812 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r anawsterau sy'n wynebu prynwyr tro cyntaf o dan yr amgylchiadau economaidd cyfredol.
2. Yn cydnabod yr angen i helpu prynwyr tro cyntaf ar yr ysgol dai drwy weithio gyda'r farchnad gyfan i ddatblygu amrywiaeth o fentrau.
3. Yn cydnabod rôl tai cymdeithasol o ran darparu tai fforddiadwy cost isel, ac nad yw'n briodol i weithredu polisïau prynu cartref a fyddai'n lleihau'r stoc tai cymdeithasol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
10 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
5 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 16.33
6 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 16.35
NDM5811 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Y rhwystrau i gyflogaeth sy'n wynebu pobl sydd â nam ar y clyw yng Nghymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 16.55
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2015